Mae Bridget Jones yn llywio bywyd fel gweddw a mam sengl gyda chymorth ei theulu, ffrindiau, a’i chyn gariad, Daniel. Dewch i ddilyn hynt a’i helynt Bridget wrth iddi ddychwelyd i’r gwaith ac ymuno ag apiau i ddod o hyd i ramant. Dyma ffilm fydd yn gwneud i chi grio a chwerthin bob yn ail! Peidiwch â’i fethu.
Cyfarwyddwyd gan: Michael Morris
Ysgrifennwyd gan: Helen Fielding | Dan Mazer | Abi Morgan
Yn Serennu: Renée Zellweger | Chiwetel Ejiofor | Leo Woodall
Hyd: 2awr 4 munud (+5-10 munud o hysbysebion ar y dechrau)