Ni’n dwad!!
Ni ddim yn siwr sut, beth na phwy eto… ond fe fyddwn ni ‘na, with bells on!
I’r rhai ohonoch chi sy’ di bod o’r blaen… welwn ni chi ‘na!
I’r rhai ohonoch chi sydd heb fod, dyma noson gabaret yng nghwmni ;
Y tri mochyn bach mewn blancedi sequin : Sorela
Y cauliflower cheese sneb yn siwr sy’ mynd ‘da cinio ‘dolig : Hywel Pitts
Y sprouts (Chi un ai ishe llond plat, chestnuts and all, neu dim un o gwbl): Divas a Diceds
A phwy â wyr be arall ffindwn ni’n pydru yng ngwaelod ein hosan…
Ho Ho Hooosanna i amser gore’r flwyddyn!
*Anaddas i blant, pobl gul, a ba hymbygs.