Cwmni Theatr Derek Williams 2023

Gweithdai misol i blant a phobl ifainc ardal Y Bala.

00:00, 1 Gorffennaf 2023

£15£36

Bwriad Cwmni Theatr Derek Williams (C.Th.D.W) yw cynnig gweithdai celfyddydol misol i blant a phobl ifainc ardal Y Bala, o 0 oed i 18! Ceir cyfle i archwilio creadigrwydd, profi amrediad o sgiliau gan gynnwys gwaith symud, perfformio, chwarae, cerddoriaeth, magu hyder ac yn bennaf oll, cyfle i chwerthin a mwynhau!
Maent yn cael eu cynnal ar y cyd â Theatr Clwyd, Urdd Gobaith Cymru ac Adran Celfyddydau Mynegiannol Ysgol Godre’r Berwyn, gyda nawdd hael gan Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd.

Ni roddir unrhyw bwyslais ar greu darnau ‘gorffenedig’ ar hyn o bryd, dim ond rhoi gofod i fwynhau’r celfyddydau.

Rhennir y dosbarthiadau fel â ganlyn:

9:30-10:00  Criw Bach Y Bala – 18 mis i Flwyddyn 2*
10:15-11:30  Grŵp Gwion Bach – Bl. 3 a 4
10:15-11:30  Criw Ceridwen – Bl. 4, 5 a 6
11:45-13:00  Tyrfa Tegid – Bl. 7, 8 a 9
11:45-13:00  Criw Creirwy – Bl. 10, 11, 12 a 13

*Bydd gofyn i rieni aros gyda chyfranogwyr Criw Bach y Bala drwy gydol y gweithdy.

Mae lle i 25 ym mhob gweithdy / Byddwn yn cynnal dau ddosbarth o Griw Bach y Bala.

Dyddiadau C.Th.D.W ar gyfer hanner cyntaf 2023
Sadwrn cyntaf pob mis!

Cost
Mae sesiynau Criw Bach Y Bala’n £2.50 yr un a’r pedwar dosbarth arall yn £6 yr un.
Gofynnir i bawb gofrestru ac ymrwymo ar gyfer holl sesiynnau’r tymor, sy’n gyfanswm o 6 gweithdy (£15 / £36).
Wedi i chi archebu eich lle, byddwn yn e-bostio ffurflen gofrestru a phecyn croeso atoch.

Mae’n drysau ar agor i unrhyw a hoffai ymuno â ni. Os oes unrhyw beth yn eich atal rhag ymuno; materion cyllid, cludiant, neu os oes angen addasiadau arnoch i gymryd rhan, rhowch wybod i ni. Mae bwrsariaethau gostyngiad o 100%, 50% neu 25% ar gael i bawb sydd angen un heb unrhyw broses ymgeisio. Cysylltwch â Branwen Haf ar post@theatrderekwilliams.cymru i drafod.