Sioe Nadolig Cyw – dydd Sul 17/11, 13:00 (BSL)

Dewch… mae hud y Nadolig yn tanio! Mae un anrheg hudol angen help gan ffrindiau Sion Corn. Mae criw Cyw yn barod am yr antur…ydych chi?

13:00, 17 Tachwedd 2024

£5£50

Mae Sioe Nadolig Cyw yn dod i’r Bala! Ymunwch â ni i ddathlu antur y Nadolig hefo criw Cyw yn Theatr Derek Williams!

Yn ymuno â Cyw ar y daith Nadolig bydd cyflwynwyr Cyw – Elin, Griff, Cati a Dafydd, yn ogystal â’r môr leidr Ben Dant, Bledd y ddraig ddireidus o’r gyfres Dreigiau Cadi, a Siôn Corn ei hun!

Oedolion: £12

Plant 2+: £5

Ysgolion: 1 aelod staff am ddim hefo pob 10 plentyn

*Mae plant o dan 2 oed am ddim a nid oes angen tocyn os yn eistedd ar lin oedolyn, ond bydd angen archebu tocyn plentyn os am gadw sedd ychwanegol.

 

Noder: Mae BSL ar gael ar gyfer y perfformiad hwn.