Diwrnod Genod Grymus

Diwrnod datblygu hyder a meddylfryd â dathlu bod yn Genod Grymus.

09:30, 23 Medi 2023

£36

Mewn stoc

Diwrnod i bob merch, oedran 16+
Wyt ti’n mynd drwy gyfnod trawsnewidiol ar hyn o bryd? Fyse ti’n hoffi agor dy feddylfryd a datblygu dy hyder?
Tyd draw i fwynhau cwmni merched eraill, dysgu technegau i dy helpu i wneud newidiadau postitif yn dy fywyd a magu hyder. Bydd bwyd, diod a digon o gyfle i sgwrsio gyda merched eraill. Fydd y diwrnod yn gorffen gyda sesiwn hunan ymlacio dwfn. Byddi’n gadel gyda meddylfryd bositif, wedi dy adfywio ac yn barod i gymeryd y camau nesaf ar dy daith.