Gweithdai Haf o Hwyl 30+31/8/22 + 1/9/22

Haf o Hwyl yn Theatr Derek Williams, Y Bala

Fel rhan o ddathliadau Haf o Hwyl eleni, mae Hunaniaith, Yr Urdd & Theatr Derek Williams yn cynnig y gweithdai yma ar gyfer artistiaid a cherddorion ifanc ardal Penllyn:

30/08: Celf efo Cian Parry Owen (7-11 oed)

Celf efo Elin Crowley (12-16 oed)

31/08: Perfformio efo Glain Rhys (12-16 oed)

01/09: Band efo Joseff Owen, Marged Gwenllian a Branwen Haf (7-16 oed)

Mae’r gweithdai i gyd o 10.00-14.30 : tyrd â bocs bwyd!

 

Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim a niferoedd yn gyfyngedig: felly, cynta’ i’r felin amdani!

Rhaid cofrestru o flaen llaw drwy glicio https://forms.office.com/r/eMusz2SBq0