NT Live: Good (15)

David Tennant sy’n serennu mewn addasiad syfrdanol o un o ddramâu gwleidyddol mwyaf pwerus Prydain.  

19:00, 20 Ebrill 2023

£13£14

Mae David Tennant yn dychwelyd i’r West End i serennu mewn addasiad syfrdanol o un o ddramâu gwleidyddol mwyaf pwerus Prydain.
Wrth i’r byd wynebu Ail Ryfel Byd, mae John Halder, athro Almaeneg da, deallus, yn cael ei dynnu i ganol mudiad, gyda chanlyniadau annirnadwy.
Dominic Cooke (enillydd Gwobr Olivier) sy’n cyfarwyddo drama amserol C.P. Taylor ac mae’r cast yn cynnwys Elliot Levey a Sharon Small. Wedi’i ffilmio’n fyw yn Theatr Harold Pinter yn Llundain.

Bydd y ffilm yn dechrau am 7pm.