NT Live: The Motive and the Cue

Sam Mendes (The Lehman Trilogy) sy’n cyfarwyddo Mark Gatiss fel John Gielgud a Johnny Flynn fel Richard Burton yn y ddrama newydd ffyrnig a doniol hon.

19:00, 21 Mawrth 2024

£13£14

drama newydd gan Jack Thorne

cyfarwyddwyd gan Sam Mendes

Sam Mendes (The Lehman Trilogy) sy’n cyfarwyddo Mark Gatiss fel John Gielgud a Johnny Flynn fel Richard Burton yn y ddrama newydd ffyrnig a doniol hon.

1964: Bydd Richard Burton, sydd newydd briodi ag Elizabeth Taylor, yn chwarae’r brif rhan mewn cynhyrchiad Broadway newydd arbrofol o Hamlet o dan gyfarwyddyd manwl John Gielgud. Ond wrth i ymarferion fynd yn eu blaenau, mae dwy oes o theatr yn gwrthdaro a buan iawn y mae’r cydweithio rhwng yr actor a’r cyfarwyddwr yn bygwth chwalu.

Wedi’i hysgrifennu gan Jack Thorne (Harry Potter and the Cursed Child) a’i dylunio gan Es Devlin (The Crucible), cafodd y ddrama newydd hon, sydd wedi ennill gwobrau’r Evening Standard am y ddrama orau, ei ffilmio’n fyw yn ystod rhediad a werthwyd allan yn y National Theatre.