Cyfarwyddwyd gan Steven Spielberg
Yn serennu Michelle Williams, Paul Dano, Seth Rogan, Gabriel LaBelle, Julia Butters, David Lynch
Portread personol o blentyndod Americanaidd gan Steven Spielberg. Tra’n tyfu i fyny yn Arizona wedi’r Ail Ryfel Byd, mae’r Sammy Fabelman ifanc yn dyheu am gael dod yn grëwr ffilmiau ar ôl gwylio The Greates Show on Earth yn y sinema. Wrth iddo gyrraedd ei arddegau, mae’n darganfod cyfrinach deuluol ddinistriol sy’n ei gyfareddu i archwilio pŵer ffilmiau, a sut mae ffilmiaun’ gallu datgelu’r gwir.
Daw perfformiad ardderchog gan Gabriel LaBelle yng nghymeriad Sammy ifanc, a Michelle Williams a Paul Dano’n chwarae ei rieni – a’r berthynas rhyngddynt yn dechrau dirywio o’i gwmpas.
Tystysgrif:
12A
Hyd
Tua 151 munud
+5-10 munud o hysbysebion a hysbysluniau
Cyngor o ran cynnwys:
Bygythiad cymhedrol am ychydig, camddefnydd cyffuriau, iaith gref ar adegau, hiliaeth