Hanes

Sut y sefydlwyd Theatr Derek Williams, a sut y cafodd ei enw

Adeilad ar gyfer y gymuned

Wrth ddechrau’r drefn newydd yn Ysgol Godre’r Berwyn yr oedd y llywodraethwyr a’r pennaeth yn awyddus iawn i sicrhau fod yr ysgol yn cael ei defnyddio’n helaeth gan yr holl gymuned. Un elfen hanfodol wrth hyrwyddo’r weledigaeth hon oedd y theatr. Wrth ail-wampio hen adeilad Ysgol y Berwyn yr oedd yr hen neuadd yn cael ei huwchraddio ac yn dechrau cael ei datblygu yn lle mwy croesawgar a chyfforddus i berfformwyr a chynulleidfa. Gwnaed apêl am gefnogaeth gan gynull nifer o bobl â diddordeb i ffurfio corff a fyddai’n cynnal a datblygu’r theatr.

Derek Williams
Derek yn ystod ymarfer y sioe ‘Joseff’, Ysgol y Berwyn, 1993.

Enwi’r theatr

Penderfynwyd yn unfrydol mai Theatr Derek Williams fyddai’i henw.

Bu Derek yn athro mathemateg yn Ysgol y Berwyn o 1983 hyd 2009 ond roedd ei ddiddordeb ym myd y celfyddydau yr un mor frwd. Bu’n cyfansoddi sgriptiau a geiriau caneuon, yn cynhyrchu pob math o sioeau gan ysbrydoli cenedlaethau o blant a phobl ifanc. Yr oedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a fu’n gyfrifol am sioeau cerdd tebyg i ‘Y Mab Dargogan’, ‘Pum Diwrnod o Ryddid’ ac ‘Ann!’

Bydd yr enw hwn yn fodd i gofio ac i dalu teyrnged i waith Derek Williams yn yr ysgol a’r ardal.

Derek Williams, Lina Gittins a Penri Roberts
Derek gyda Lina Gittins a Penri Roberts, sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn.