Amdanom Ni

Gwybodaeth am gyfansoddiad a chynlluniau’r theatr

Cydlynydd ar waith

Derbyniwyd cefnogaeth ariannol gan Gyngor Gwynedd yn 2019 i ddatblygu’r theatr a gwella’r adnoddau a’r drefn ymhellach. Un cam allweddol yn y broses yma oedd medru penodi Branwen Haf yn gydlynydd rhan amser er mwyn troi’r theatr yn gyrchfan i bobl o bob oed ac anian.

Cyfarfod blynyddol

Ddechrau Hydref 2019 cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol cyntaf. Yn llywio’r cyfarfod yr oedd Alwyn Jones-Evans, Cadeirydd; Dewi Davies, Ysgrifennydd a Bethan Aykroyd, Trysorydd ynghyd ag aelodau o’r Pwyllgor oedd wedi’i ffurfio i ddechrau ar y gwaith. Penderfynwyd y byddai’r swyddogion yma yn dal ati am flwyddyn ond etholwyd darpar swyddogion i gymryd eu lle. Bydd Rhian Thompson yn cymryd y Gadair, Marged Gwenllïan yn Ysgrifennydd ac Alwyn Dylan yn Drysorydd pan ddaw’r oruchwyliaeth newydd i rym yn Hydref 2020.

Cyfansoddiad

Mabwysiadodd y Cyfarfod Blynyddol Gyfansoddiad y Theatr, dogfen rydd sail i’r datblygiadau o ran amcanion a threfn rheoli. Pwysleisiwyd, er enghraifft mai lle ar gyfer pawb, yn gynulleidfa a pherfformwyr, yw hwn.

Y Dyfodol

Mae pawb yn eiddgar i’r Theatr lwyddo ar ei chanfed gan ddarparu cyfoeth o adloniant i bobl Penllyn, Edeyrnion, Uwchaled a thu hwnt. Ni phylwyd y weledigaeth ac ni wanhaodd yr eiddgarwch i wireddu’r amcan hwn: i wasanaethu yr ardal ac i gyfrannu at ddiwylliant a diddanwch. Cofiwch, fodd bynnag, fod unrhyw lwyddiant yn dibynnu ar y bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hyn, yn gynulleidfa ac yn berfformwyr, yn gymdeithasau a chlybiau, yn wirfoddolwyr, yn awduron a chynhyrchwyr ac yn bawb sydd â syniadau cyffrous.

Cysylltwch â ni os hoffech wirfoddoli neu gynnig unrhyw syniadau: theatrderekwilliams@gmail.com