Polisïau

Nid ydym yn rhoi ad-daliad nac yn cyfnewid tocynnau.

Gofynnwn i chi ddiffodd eich ffonau symudol pan yn mynychu digwyddiadau.

Os y bydd rhaid gohirio perfformiad am ba bynnag reswm, byddwn yn ceisio’n gorau i gysylltu’n uniongyrchol gyda phob cwsmer i’w hysbysu ynglyn â’r trefniadau a drwy wefan a gwefannau cymdeithasol Theatr Derek Williams.

Cyfrifoldeb y cwsmeriaid yw eu heiddo, a diogelwch eu cerbyd yn y maes parcio.

Gwnewn ein gorau i sicrhau bod digwyddiadau yn cychwyn yn ar amser. Ni chaniateir mynediad i’r rhai sydd yn cyrraedd yn hwyr dim ond os oes cyfle addas yn ystod y perfformiad a fod yr artist/cwmni yn caniatau hynny. Gellir gwrthod mynediad heb ad-daliad os na allwn ganiatau mynediad hwyr chi.

Ni chaniatawn ymddygiad ymosodol tuag at staff neu aelodau eraill o’r gynulleidfa.

Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw ran o’r adeilad. Mae hyn yn cynnwys e-sigaréts.