Pum Diwrnod o Ryddid (Pnawn Sadwrn)

Cwmni Theatr Maldwyn yn cyflwyno cynhyrchiad newydd sbon o Pum Diwrnod o Ryddid gan Derek Williams, Penri Roberts a Linda Gittins.

15:00, 9 Tachwedd 2024

£15£18

Cwmni Theatr Maldwyn yn cyflwyno ‘Pum Diwrnod o Ryddid’

gan Derek Williams, Peri Roberts a Linda Gittins

Cynhyrchiad newydd o Pum Diwrnod o Ryddid, y sioe a berfformiwyd gyntaf yn Theatr Hafren Y Drenewydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1988. Seilir y sioe ar hanes gwrthryfel Y Siartwyr yn 1839 yn nhref Llanidloes, a’u hymgais i ennill yr hawl i gael pleidlais etholiadol, yn ogystal a gwella amodau gwaith y gweithwyr cyffredin.