Cwmni Theatr Maldwyn yn cyflwyno ‘Pum Diwrnod o Ryddid’
gan Derek Williams, Peri Roberts a Linda Gittins
Cynhyrchiad newydd o Pum Diwrnod o Ryddid, y sioe a berfformiwyd gyntaf yn Theatr Hafren Y Drenewydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1988. Seilir y sioe ar hanes gwrthryfel Y Siartwyr yn 1839 yn nhref Llanidloes, a’u hymgais i ennill yr hawl i gael pleidlais etholiadol, yn ogystal a gwella amodau gwaith y gweithwyr cyffredin.