Wedi’i gosod yn sîn gerddoriaeth ddylanwadol Dinas Efrog Newydd yn y 1960au cynnar, mae “A Complete Unknown” yn dilyn taith trawiadol y cerddor 19 oed o Minnesota, Bob Dylan, wrth iddo gyrraedd brig y siartiau gyda’i ganeuon gwerin. Timothée Chalamet sy’n serennu ac yn canu fel Bob Dylan yn y ffilm sydd bellach wed’i enwebu ar gyfer 8 Gwobr Academi, gan gynnwys Gwobr yr Academi am y Ffilm Orau.
Cyfarwyddwyd gan: James Mangold
Ysgrifennwyd gan: James Mangold, Jay Cocks, Elijah Wald
Yn Serennu: Timothée Chalamet, Edward Norton, Elle Fanning
Hyd: 2awr 21 munud (+5-10 munud o hysbysebion ar y dechrau)