Ar Log yn dathlu 50

Dewch i ymuno yn y dathliadau! Noson arbennig o gerddoriaeth gwerin Gymraeg, yng nghwmni Lowri Evans a Lee Mason.

20:00, 24 Ebrill 2026

£15

Ar Log yn 50 – dewch i ymuno yn y dathliadau! Noson arbennig o gerddoriaeth gwerin Cymraeg, yng nghwmni Lowri Evans a Lee Mason.

Mae 2026 yn flwyddyn arbennig iawn i Ar Log. Go brin y byddai unrhyw un wedi dychmygu y byddai’r grŵp yn dathlu eu pen-blwydd yn 50 pan ffurfiwyd Ar Log yn yr Ŵyl Geltaidd yn Lorient, Llydaw nôl yn 1976. Ond, yn dilyn anogaeth gan y Dubliners ar ôl cyngerdd cyntaf y grŵp, mae Ar Log, erbyn hyn, wedi mynd â cherddoriaeth Cymru i dros ugain o wledydd ar dri chyfandir a nhw oedd y grŵp gwerin traddodiadol Cymraeg proffesiynol cyntaf. 

Er mwyn dathlu’r garreg filltir hon mae Ar Log yn trefnu taith yng Nghymru a’r Almaen, ac yn rhyddhau albym newydd, Ar Log VIII, yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Pleser mawr yw eu croesawu yma i’r Bala ar y 24/04/25. Bydd Lowri Evans a Lee Mason yn ymuno efo nhw ar y noson arbennig yma.