Bara Caws: 1936

Mae ysbryd Lloyd George ac ysbryd Adolf Hitler yn cerdded mewn i dafarn… croeso i Sioe Glwb diweddaraf Theatr Bara Caws! Gan Gruffudd Owen.

19:30, 12 Tachwedd 2024

£15

1936 gan Gruffudd Owen

Mae Lloyd George wedi marw. Does gan y cyn Brif Weinidog ddim gwell i’w neud nag ymlacio efo peint a phapur newydd yn nhafarn hynafol y Pen-lan Fawr. Mae ‘na luniau ohono ar hyd y waliau yn ei atgoffau o’r dyddiau gwell: Llun ohono yn ifanc ac yn radical; llun ohono yn agoriad swyddogol clwb golff Pwllheli, llun ohono yn hen ddyn yn sefyll ochr yn ochr â Hitler yn y Berchestgarden yn 1936. Ond mae rhywun arall yn galw heibio i’r Pen-lan Fawr, isio rhoi’r byd yn ei le…

Drama absẃrd am hanes, hen ddynion, a chysgod eu gweithredoedd drosom ni’i gyd…