Bara Caws: 3 Drama

Tair drama newydd sbon wedi ei berfformio mewn un noson!

19:30, 3 Ebrill 2025

£15

Tair drama newydd sbon wedi ei berfformio mewn un noson – Disghled ‘da Del gan Cai Llewelyn Evans, Wisgi gan Carwyn Blayney a 99’er gan Ceri Ashe, dan ofal yr actorion anhygoel Gareth John Bale, Elena Carys-Thomas, Siôn Emyr, Mark Henry-Davies a Mali O’Donnell.

Dishgled ‘da Del – Cai Llewelyn Evans 🎧

Mae’r shock jock carismatig Del Tozer yn cyffroi ei gwrandawyr selog ar TARAN FM yn ddyddiol gyda’i sylwadau milain ar fywyd modern. Ond pan ddaw gwestai ifanc â phersbectif amgen ar y byd a phechodau’r gorffennol i mewn i’r stiwdio, a oes perygl mai hanes Del ei hun fydd yn cael ei roi o dan y chwyddwydr?  

 Wisgi – Carwyn Blayney 🥃

Ers gorffen gyda’i gariad, Wini, mae Gwion yn gweld nad yw’n gallu fforddio byw ar ben ei hun. Diolch byth, mae ei hen ffrind, Iwan, angen gwely. Ond yw pethau wir ar ben rhwng Gwion a Wini?  

Drama ysgafn am dri pherson hunanol yn ymladd dros lety yn ystod yr argyfwng costau byw. 

99’er – Ceri Ashe 🍦

Pan mae tad Elen yn marw yn sydyn, mae’n neidio ar y trên nesaf o Lundain nôl i Sir Benfro, ac yna’n ffeindio’i hun yn gweithio yn fan hufen iâ’r teulu: 

“Pan ti’n ifanc a meddwl am bod yn thirties ti, ti’n meddwl, wow, byddai mor sorted erbyn ‘nny – prynu tŷ, job teidi, dim overdraft….blinco – a bam it’s your thirties a ‘sdim lot wedi newid!”

Canllaw oed 14 + 

Peth defnydd o iaith gref