Bara Caws: Llanast

2 fam, 2 dad, 2 fab × wisgi, tiwlips a ffôn = llanast!

19:30, 1 Rhagfyr 2025

£15

Llanast! Cyfieithiad Gareth Miles o ‘Le Dieu du Carnage’ gan Yasmina Reza

2 fam, 2 dad, 2 fab × wisgi, tiwlips a ffôn = llanast!

Mae dau bâr o rieni yn cwrdd i drafod ymddygiad eu plant anystywallt – mae plentyn un ohonynt wedi brifo plentyn y llall mewn parc.  

Mae’r cyfarfod yn cychwyn yn o gall, a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i amser fynd yn ei flaen mae ymddygiad y pedwar yn mynd yn fwyfwy plentynnaidd, a diolch i botel o Benderyn, daw’r cyfarfyddiad i ben mewn anhrefn llwyr! 

Mae chwarae’n troi’n chwerw go iawn yn y ddrama ddoniol, ddeifiol hon.

Canllaw oed 14+

Cast: 

Siôn Emyr

Gwenllian Higginson

Carwyn Jones

Manon Wilkinson

 

Cyfarwyddo: 

Betsan Llwyd