‘Bwci Be?!’ – y drydedd mewn cyfres o operâu newydd i bobl ifanc a theuluoedd gan OPRA Cymru. Mae opera Claire Victoria Roberts yn dathlu chwedl Gwyn ap Nudd a Chalan Gaeaf mewn fersiwn ffres o’r stori ar gyfer cynulleidfaoedd modern gyda libretto Cymraeg gan Patrick Young a Gwyneth Glyn.
Mae’n dilyn llwyddiant diweddar operâu newydd y cwmni: ‘Cyfrinach y Brenin’ a ‘Peth Bach ‘di Cawr’.
Digwyddiad am ddim i deuluoedd ardal Y Bala a’r cylch diolch i Grant Cyfuno gan Cyngor Gwynedd*
6:30yh
*Er ei fod yn ddigwyddiad am ddim, mae angen archebu tocyn.