Mae Cwmni Theatr Derek Williams yn gyfle i blant o 18mis i flwyddyn wyth roi tro ar sgiliau perfformio, symud, canu a chelf.
Ymunwch â’n tiwtor Ceri Dolben i arbrofi, magu hyder, meithrin sgiliau, ac yn bennaf oll – cael hwyl!
Yn y sesiwn greadigol hon, bydd yr unigolion yn archwilio’u dychymyg drwy gemau, adrodd straeon, a pherfformio. Byddant yn dysgu sut i fynegi eu hunain, gweithio fel tim, ac yn dod a chymeriadau’n fyw ar y llwyfan. Boed nhw’n swil neu’n llawn egni, bydd pob plentyn yn cael y cyfle i fwynhau mewn amgylchedd cefnogol a chwareus!
Amseroedd:
Criw Bach Y Bala (18mis – Bl2): 13:00 – 13:40
Grwp Gwion Bach (Bl.3 – Bl.4): 14:00-15:00
Criw Ceridwen (Bl.5 – Bl.8): 15:30-16:45
Am ragor o fanylion, cysylltwch â theatrderekwilliams@gmail.com
Mae modd archebu lle ar y gweithdy 15/11/25 yn unig am £5 yn unig, neu £10 am weddill y tymor.
