Cwmni Theatr Derek Williams – Gweithdai Perfformio Misol i Blant a Phobl Ifanc

Mae Cwmni Theatr Derek Williams yn ôl! Cyfle euraidd i fagu hyder a datblygu sgiliau newydd o fewn y celfyddydau dan arweiniad Ceri Dolben.

09:15, 26 Ebrill 2025

£5£10

Mae Cwmni Theatr Derek Williams yn gyfle i blant o 18mis i flwyddyn saith roi tro ar sgiliau perfformio, symud, canu a chelf.

Ymunwch â’n tiwtor Ceri Dolben i arbrofi, magu hyder, meithrin sgiliau, ac yn bennaf oll – cael hwyl!

Dyddiadau: 

Boreau Sadwrn Ebrill 26 / Mai 24

Mi fydd Cari Sioux o gwmni dawns DCXS yn cynnal gweithdai dawns yn ystod y sesiwn Cwmni Theatr Derek Williams nesaf ar y 26ain o Ebrill! Os nad ydych chi’n aelod, mae modd talu am y sesiwn yma yn unig am £5. Tocynnau ar gael ar-lein neu wrth y drws.

Amseroedd:

Criw Bach Y Bala (18mis – Bl2): 9.15-9.55

Grwp Gwion Bach (Bl.3 – Bl.4):  10.20 – 11.20

Criw Ceridwen (Bl.5 – Bl.7): 11.45 -1yp

Am ragor o fanylion, cysylltwch â theatrderekwilliams@gmail.com