Cwmni Theatr Derek Williams – Gweithdai Perfformio Misol i Blant a Phobl Ifanc – Haf 2026

Mae Cwmni Theatr Derek Williams yn ôl! Cyfle euraidd i fagu hyder a datblygu sgiliau newydd o fewn y celfyddydau dan arweiniad Ceri Dolben.

09:15, 30 Mai 2026

Price range: £5 through £15

Mae Cwmni Theatr Derek Williams yn ôl – ac yn barod i ysbrydoli!
Ymunwch â’n gweithdai perfformio misol yn ardal Y Bala: cyfle euraidd i fagu hyder a datblygu sgiliau newydd o fewn y celfyddydau dan arweiniad Ceri Dolben.

Dyddiadau:

30/05/26 – gyda Mali O’Donnell

20/06/26 – gyda Ceri Dolben

04/07/26 – gyda Ceri Dolben

Amseroedd:

Criw Bach Y Bala (18mis – Bl2): 9.15-9.55

Grwp Gwion Bach (Bl.3 – Bl.4):  10.20 – 11.20

Criw Ceridwen (Bl.5 – Bl.8): 11.45 -1yp

Am ragor o fanylion, cysylltwch â theatrderekwilliams@gmail.com