Arad Goch: Cymrix

Drama ddwyieithog newydd gan y dramodydd Alun Saunders sydd yn ymdrin â hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg trwy lygaid tri person ifanc.

14:30, 30 Hydref 2024

£0

Mae tyfu fyny’n her: darganfod pwy wyt ti, pwy allet ti fod, yn ogystal â chadw fyny â gwaith cartref… Ond pan mae gofyn cyflwyno hynna o flaen yr ysgol gyfan, ble ar y ddaear mae dechrau??

Drama ddwyieithog newydd gan y dramodydd Alun Saunders sydd yn ymdrin â hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg trwy lygaid tri person ifanc.

Yn addas ar gyfer 9+ oed

Hyd: 50 munud

Mae’r perfformiad hwn AM DDIM gan gynnwys diod a chacen ar ôl y sioe diolch i gefnogaeth ARFOR.