Bara Caws: Dadra (Nos Fawrth)

Perfformiad Ychwanegol

Mae Euros Newydd ddod yn dad am y tro cynta…

19:30, 8 Medi 2026

£15

Oherwydd gwaith adeiladu sy’n digwydd yn Neuadd Cerrigydrudion yn ystod y dydd, mae perfformiad Dadra ar 8 Medi wedi’i symud yma i  Theatr Derek Williams, Y Bala.

Mae Euros Newydd ddod yn dad am y tro cynta.. a gan bod Catrin ei wraig yn ddoctor a  bod Euros, wel.. ddim, mae o am aros adra i fagu’r bychan. Neis de? Na. Mae magu babi’n waith anodd, diflas ag unig. Ella bod o ddim wedi cael ei wneud ar gyfer y joban yma wedi’r cwbl?

Sioe gomedi aml haenog gan awdur Parti Priodas a Yr oriau Mân.

Bydd chwerthin a chrio am yn ail.

Canllaw oed 16+

Awdur: Gruffudd Owen

Cyfarwyddo: Ffion Dafis

Cast:

Owen Alun

Melangell Dolma

Manon Wilkinson