Dewch draw i greu, cymdeithasu a mwynhau gyda rhai o unigolion fwyaf creadigol Gogledd Cymru! Cerddoriaeth / Comedi / Llenyddiaeth / Celf a Chlocsio – mae rhywbeth yma i bawb!
- Branwen Haf – Dewch i ganu pob math o ganeuon, o’r gwerin i’r gwirion!
- Haf Llewelyn – Dewch i greu gwledydd newydd lle medr pob math o bethau ddigwydd. O! a dewch a’ch hudlath hefo chi!
- Dilwyn Morgan – Chwerthin yw’r ffisig orau – dewch i gael hwyl hefo Dilwyn Morgan!
- Tudur Phillips – Dewch i gael blas o glocsio gyda Tudur, dysgu ambell step newydd ac wrth gwrs y triciau!
- Mari Gwent – Dewch i greu darn o waith celf am fyd dychmygol
Rhan o Wythnos Dewch Draw Theatr Derek Williams, sydd wedi ei ariannu drwy grant Cefnogi’r Celfyddydau Cyngor Gwynedd.
Tocynnau: £5 y person / am ddim i blant dan 3 oed
Mae angen tocyn ar bawb sy’n mynychu’r diwrnod
(Plant oedran cynradd i fod hefo oedolyn os gwelwch yn dda)