✨ Gweithdy am ddim gyda Awen Ensemble ✨
Ym mis Tachwedd 2025, bydd y band jazz/gwerin amgen Awen Ensemble yn rhyddhau eu fersiwn o’r hen gân werin ‘Hiraeth’. I gyd-fynd â’i sengl newydd, bydd y band yn cynnal taith o weithdai i gerddorion lleol, ynghyd â pherfformiadau ym Mlaenau Ffestiniog, Y Bala ac Y Bermo.
Bydd y gweithdai’n rhoi cyfle i gerddorion a phobl o’r gymuned i ddysgu caneuon gwerin Cymraeg dan arweiniad Emyr Penry Dance, ac i arbrofi gyda’r caneuon hyn mewn arddull jazz, yng nghwmni aelodau Awen Ensemble. Bydd y gweithdai’n rhad ac am ddim.
Dyddiad: Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd
Amser: 15:00-16:30
Tocynnau: Am ddim! / Free