Ledi’r Wyrcws

Ledi’r Wyrcws : un diwylliant, dau fyd

19:30, 13 Mawrth 2026

£12

Mae’n 1955, oes yr NHS newydd, ond mae’r wyrcws yn sefyll o hyd, a rhai o’i drigolion yn garcharorion tlodi ers hanner canrif a mwy.

Daw dwy fenyw o gefndiroedd hollol wahanol wyneb yn wyneb, y naill yn cludo traddodiad a’r llall yn gobeithio diogelu’r traddodiad hwnnw. Ond wrth ganu, recordio a thrafod caneuon gwerin, daw hanes cudd i’r golwg.