Mewn Cymeriad yn cyflwyno ‘Waldo’
Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i fro’r Garreg Las yn 2026, mae’n addas bod cwmni Mewn Cymeriad yn talu teyrnged i waith a bywyd un o blant amlycaf yr ardal honno, sef y bardd a’r ymgyrchydd heddwch Waldo Williams. Yn y cyflwyniad hwn, cawn gip ar y cwlwm tynn rhwng profiadau ei fywyd, delfrydau ei athroniaeth a’i gerddi ac ystyried mor berthnasol yw ei eiriau i’n dyddiau ni.
Dramodydd – Mererid Hopwood
Cyfarwyddwr – Janet Aethwy
Actor – Ryland Teifi
Drysau: 19:00
Sioe: 19:30
*Tocynnau hefyd ar gael o Siop Awen Meirion Y Bala.

