Noson yng nghwmni Sion Goronwy

Ymunwch â ni am noson gofiadwy o ganu a sgwrsio gyda’r baswr adnabyddus Sion Goronwy, gydag Eirian Owen yn cyfeilio, a Rhys Meirion yn arwain y noson.

19:30, 6 Medi 2025

£10£12.50

Dewch i glywed mwy am yrfa anhygoel Sion Goronwy yn y byd opra a chlywed rhai o’i ffefrynau dros y blynyddoedd. Rhys Meirion fydd yn arwain y noson arbennig yma, gydag Eirian Owen yn cyfeilio. 

Sion Goronwy

Graddiodd Sion Goronwy o Brifysgol Cymru, Aberystwyth gyda gradd baglor mewn hanes, cyn parhau â’i astudiaethau yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall ac Ysgol Opera Ryngwladol y Coleg Cerdd Brenhinol (Royal College of Music).

Enghreifftiau diweddar o’i waith: Rhannau bas The Nose (Royal Opera House); Quince A Midsummer Night’s Dream (Stadttheater Klagenfurt); Hans Schwarz Die Meistersinger von Nürnberg, Snug A Midsummer Night’s Dream (Glyndebourne Festival Opera); Snug (Teatro Massimo Palermo & The Grange Festival); Grand Visier & Doctor Al Wasl Don Basilio Barber of Seville (WNO).

Mae wedi perfformio mewn cyngherddau fel unawdydd gwadd gyda cherddorfeydd megis Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Oes yr Oleuedigaeth, Opéra National de Lyon, Cerddorfa Symffoni Kristiansand, a Cherddorfa Tŷ Opera Brenhinol gydag arweinwyr yn cynnwys Syr Andrew Davis, Kazushi Ono, Vladimir Jurowski, Robin Ticciati, Steuart Bedford, Jonathan Cohen, Leo McFall, Daniel Cohen, Terje Boye Hansen, ac Alexander Soddy.

Eirian Owen

Magwyd Eirian Owen ym mro wledig Llanuwchllyn. Sylweddolwyd yn gynnar iawn yn ei bywyd fod ganddi ddawn gerddorol naturiol. Astudiod gerddoriaeth ymysg ei phynciau Lefel A yn Ysgol y Berwyn Y Bala a disgleiriodd yn ei chwrs ym Mhrifysgol Cymru, Bangor lle graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Enillodd gymwysterau pellach – diploma ARCM mewn cyfeilio a diploma ol-radd gan Brifysgol Manceinion. Dechreuodd ei gyrfa fel pennaeth adran gerddoriaeth Ysgol y Gader, Dolgellau cyn ei hapwyntio yn gyfeilydd staff yn Ysgol Gerdd enwog Chethams, Manceinion lle gwasanaethodd am ugain mlynedd yn cyfeilio a hyfforddi piano i genedlaethau o ddisgyblion dawnus. 

Dechreuodd gyfeilio i Gôr Godre’r Aran yn 1970 cyn cael ei phenodi yn arweinydd a chyfarwyddwr y Côr i olynu Tom Jones yn 1975. Yn Eisteddfod Genedlaethol 1999 urddwyd Eirian yn Dderwydd Anrhydeddus yng Ngorsedd Beirdd Ynys Prydain. Ynys Prydain. Yn Ionawr 2005 dyfarnwyd iddi radd MA er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru fel cydnabyddiaeth o’i gwasanaeth eithriadol i gerddoriaeth yng Nghymru.

Rhys Meirion

Mae Rhys Meirion yn denor adnabyddus sydd  wedi profi llwyddiant rhyngwladol ym maes opera a recordio, ac yn wyneb cyfarwydd iawn yn y byd darlledu. 

Mae ei rolau opera yn cynnwys Rodolfo yn La Boheme, Pinkerton yn Madam Butterfly, Alfredo yn La Traviata, Nemorino yn L’Elisir d’Amore, Nadir yn The Pearl Fishers, Marcello yn La Boheme gan Leoncavallo, Y Dug yn Rigoletto, Tebaldo yn Capuletti e Montecchi, Tamino yn The Magic Flute, y rôl deitl yn Ernani, Faust, Don Ottavio in Don Giovanni, Y Morwr yn Tristan und Isolde, Rinuccio yn Gianni Schicchi, Canwr Eidalaidd yn Der Rosenkavalier, Froh yn Das Rheingold, Zinovy yn Lady Macbeth of Mtzensk, Fenton yn Falstaff ac eraill.

Mae Rhys Meirion yn gyflwynydd rheolaidd ar deledu a radio. Mae ei gyfresi ar S4C yn cynnwys Deuawdau Rhys Meirion, Corau Rhys Meirion a Canu Gyda Fy Arwr ar S4C. Mae hefyd yn cyflwyno’r rhaglen eiconig Ar Eich Cais ar BBC Radio Cymru.

Tocynnau:

£12.50 o flaen llaw / £15 ar y drws

£10 i blant a phensiynwyr