A Streetcar Named Desire
gan Tennessee Williams
Cyfarwyddwr: Benedict Andrews
Gillian Anderson (Sex Education), Vanessa Kirby (The Crown), a Ben Foster (Lone Survivor) sy’n serennu yng nghampwaith anhrechadwy Tennessee Williams, sy’n dychwelyd i sinemâu.
Wrth i fyd bregus Blanche chwalu o’i chwmpas, mae hi’n troi at ei chwaer, Stella am gysur – ond mae ei dirywiad yn ei harwain at Stanley Kowalski, cymeriad creulon ac anfaddeugar. Gan y cyfarwyddwr arloesol, Benedict Andrews, ffilmiwyd y cynhyrchiad llwyddiannus hwn yn fyw yn ystod sioe hynod lwyddiannus a werthodd allan yn theatr Young Vic yn 2014.