NT Live: Inter Alia (15)

Rosamund Pike (Gone Girl, Saltburn) sy’n serennu fel Jessica yn y ddrama newydd yma gan y tîm tu ôl i Prima Facie.

19:00, 26 Medi 2025

£13£14

Inter Alia
drama newydd gan Suzie Miller

Rosamund Pike (Gone Girl, Saltburn) sy’n serennu fel Jessica yn y ddrama newydd yma gan y tîm tu ôl i Prima Facie. Mae Jessica yn Farnwr Llys y Goron ar frig ei gyrfa. Tu ôl i’r fantell, mae hi’n caru carioci, yn wraig annwyl ac yn riant cefnogol.

Pan mae digwyddiad yn bygwth siglo cydbwysedd ei bywyd, ydi hi’n gallu cadw’r teulu rhag chwalu?

Wedi llwyddiant ysbrydoledig Prima Facie, mae’r awdures Suzie Miller a’r cyfarwyddwr Justin Martin yn uno unwaith eto i gyflwyno drama rymus a theimladwy.