NT Live: Nye

Michael Sheen sy’n chwarae rhan Nye Bevan ar daith trwy fywyd ac etifeddiaeth y dyn a drawsnewidiodd wladwriaeth les Prydain a chreu’r GIG.

19:00, 10 Mai 2024

£13£14

drama newydd gan Tim Price

cyfarwyddwyd gan Rufus Norris

Michael Sheen sy’n chwarae rhan Nye Bevan ar daith trwy fywyd ac etifeddiaeth y dyn a drawsnewidiodd wladwriaeth les Prydain a chreu’r GIG.

Yn wyneb marwolaeth, mae atgofion dyfnaf Aneurin ‘Nye’ Bevan yn ei arwain ar daith yn ôl trwy ei fywyd; o’i blentyndod i gloddio dan ddaear, y Senedd ac ymladd â Churchill.

Wedi’i hysgrifennu gan Tim Price a’i chyfarwyddo gan Rufus Norris (Small Island), mae’r ffantasia Cymreig epig newydd hwn yn recordiad o berfformiad byw gan y Theatr Genedlaethol.