Mae’n fis Mawrth 1997 ac, yn dilyn deunaw mlynedd o reolaeth Dorïaid, mae Prydain yn cyrraedd croesffordd wleidyddol.
Wrth i William Davies gerdded o’i dŷ un bore, mae’n rhoi cynllun anobeithiol a hurt ar waith a fydd yn ennill y blaen ar y system – yn ei dyb ef. Ond aiff pethau o chwith wrth i’r hen ddyn sylweddoli ei fod wedi gwneud camgymeriad ofnadwy.
Wrth i ddiwrnod yr etholiad agosau, mae William Davies a’i deulu’n dysgu ambell i wirionedd – am ei gilydd, ac am eu gwir deimladau am eu cartref.
Cyflwynir gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gefnogwyd gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), drwy gymorth Y Loteri Genedlaethol. Sgan 2K newydd gan R3store Studios, adfer digidol gan Gorilla.
Cast a Chriw
Cyfarwyddwr ac Awdur: Emlyn Williams
Cynhyrchydd: Alun Ffred Jones
Prif gast:
- Stewart Jones (William Davies) – Ifas y Tryc, Aderyn Papur (1984) a Nel (1990), ymysg eraill.
- Gwenno Elis Hodgkins (Maureen) – Tipyn o Stad (2002-2008), Stad (2022), Aderyn Papur (1984), C’mon Midffild (1996), Gwlad yr Astra Gwyn (2012-2014) a mwy.
- Arwel Gruffydd (Alun Davies) – Stormydd Awst (1988), Hedd Wyn (1992), Eldra (2002) ac Y Swn (2023), ymhlith nifer o rolau eraill. Cyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru o 2011 i 2022.
- Gwyn Vaughan (John Meredydd) – Hedd Wyn (1992), Solomon a Gaenor (1999), Pobol y Cwm, Talcen Caled, ‘Arthur’ yn Rownd a Rownd ers 2007 hyd heddiw.
- Morfudd Hughes (Catrin Ann) – Pengelli, Rownd a Rownd, Tipyn o Stad a Pobol y Cwm yn ogystal a nifer o ffilmiau fel Branwen (1995), Porc Pei (1999), ac Y Lleill (2005).
- John Ogwen (Mr. Elias) – yn enwog am ei rolau theatr yn ogystal ag ar y sgrin, gan ennill wobr arbennig BAFTA Cymru yn 2004 am ei gyfraniad i’r maes.
- Marged Esli (Matron) – Bys a Bawd a Bilidowcar, Madam Wen, Pengelli, Amdani a Porc Peis Bach, ac yn fwy ddiweddar Pobol y Cwm a Rownd a Rownd.
Gweddill y cast: Rhian Cadwaladr (Elsie), Catrin Dafydd (Kathleen), Grey Evans (Edward Jos), Valmai Jones (Gwenda), Til Roberts (Robat Hiwi), Hefin Wyn (Osbourne), Elin Wmffras (Angela), Noel Williams (Tomi Williams), Dyfan Dwyfor (Stephen)