National Theatre Live yn cyflwyno cynhyrchiad Empire Street Production o Prima Facie.
ysgrifennwyd gan Suzie Miller
cyfarwyddwyd gan Justin Martin
Mae perfformiad Jodie Comer (Killing Eve), sydd wedi ennill gwobrau Olivier a Tony am ei pherfformiad yn y ddrama un-fenyw afaelgar hon gan Suzie Miller, yn dychwelyd i sinemâu.
Mae Tessa yn fargyfreithiwr ifanc, disglair. Mae hi wedi gweithio ei ffordd i fyny o wreiddiau dosbarth gweithiol i fod ar frig ei gêm; amddiffyn; croesholi ac ennill. Mae digwyddiad annisgwyl yn ei gorfodi i wynebu’r ffiniau lle mae pŵer patriarchaidd y gyfraith, baich y prawf a moesau yn gwahanu.
Mae Prima Facie yn mynd â ni at galon lle mae emosiwn a phrofiad yn gwrthdaro â rheolau’r gêm.
Justin Martin sy’n cyfarwyddo’r tour de force unigryw hwn, a gafodd ei ddarlledu’n fyw yn 2022 yn ystod rhediad a werthodd bob tocyn yn Theatr Harold Pinter yn West End Llundain.