Ymunwch hefo ni i ddathlu sêr disglair Y Bala!
Noson wobrwyo i ddathlu Y Bala, ein cymunedau a’n pobl wrth nodi 700 mlynedd ers i’r Bala dderbyn ei siarter gyntaf dan arweiniad Dilwyn Morgan, ac yn cynnwys adloniant gan ddisgyblion Ysgol Godre’r Berwyn, Glain Rhys ac eraill.
Tocynnau: £10 gan gynnwys adloniant a diod am ddim wrth gyrraedd, a thocyn raffl am gyfle i ennill swper gwely a brecwast yng ngwesty moethus Palé Hall (gwerth £400)