Gan ddechrau yn y 1950au mae’r ffilm yn dilyn awdur sy’n derbyn newyddion sy’n ei arwain ar daith hiraethus yn ôl adref. Wrth deithio drwy’r nos daw atgofion i’r wyneb, gan ei orfodi i fyfyrio dros y digwyddiadau a arweiniodd at i’w fam gael ei chadw mewn ysbyty meddwl tua thri deg mlynedd ynghynt.
Mae’r ffilm wedi’i hysbrydoli gan olygfeydd o’r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard – clasur llenyddol modern a gyhoeddwyd gyntaf yn 1961. Mae’r ffilm unigryw hon yn cyfuno grym emosiynol opera gyda golygfeydd sinematig trawiadol, ac yn cynnwys cerddoriaeth brydferth gan y cyfansoddwr Cymreig adnabyddus Gareth Glyn. Ysgrifennwyd y libreto gan Iwan Teifion Davies a Patrick Young, ac mae’r gerddoriaeth yn cael ei pherfformio gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
- Cyfarwyddwr: Chris Forster
- Cynhyrchydd (Gweithredol): Patrick Young, Ed Talfan, Emyr Afan
- Sgriptiwr: Marc Evans
- Cyfansoddwr: Gareth Glyn, a’r libretyddion Iwan Teifion Davies a Patrick Young
- Cast: Huw Ynyr, Elin Pritchard, Annes Elwy, Dylan Morrison-Jones, Sion Goronwy
- Hyd: 1 awr 25 munud
