Mae Charles, enillydd loteri ecsentrig sy’n byw ar ei ben ei hun ar ynys anghysbell, yn breuddwydio am gael ei hoff gerddorion, McGwyer Mortimer, yn ôl at ei gilydd. Mae ei ffantasi yn troi’n realiti pan fydd cyd-aelodau’r band, a chyn-gariadon, yn derbyn ei wahoddiad i chwarae sioe breifat yn ei gartref ar Ynys Wallis. Ond pan fydd hen densiynau’n dod i’r amlwg, mae Charles yn ceisio’n daer i achub gig ei freuddwydion.
Tim Key, Tom Basden, a Carey Mulligan sy’n serennu yn y ffilm.
Cyfarwyddwr: James Griffiths
Ysgrifenwyr: Tom Basden | Tim Key
Yn serennu: Tom Basden | Tim Key | Carey Mulligan
Hyd: 1 awr 39 munud (+5-10 munud o hysbysebion ar y dechrau)