Mae bywyd yn ymddangos yn hawdd i’r pâr perffaith Ivy (Olivia Colman) a Theo (Benedict Cumberbatch): gyrfaoedd llwyddiannus, priodas gariadus, plant hyfryd. Ond o dan wyneb eu bywyd delfrydol, mae storm yn corddi – wrth i yrfa Theo chwalu’n sydyn tra bod uchelgeisiau Ivy’n cael eu gwireddu, mae cystadleuaeth ffyrnig a dicter cudd yn tanio. Mae The Roses yn ailwampio’r ffilm glasurol o 1989 The War of the Roses, a oedd yn seiliedig ar y nofel gan Warren Adler.
Cyfarwyddwr: Jay Roach
Ysgrifenwyr: Warren Adler | Tony McNamara
Yn serennu: Olivia Colman | Benedict Cumberbatch | Kate McKinnon
Hyd: 1 awr 45 munud (+5-10 munud o hysbysebion)